Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Comics and Nation Conference, 13-14 July 2017 : Lleoliad y Gynhadledd

Cynhelir y gynhadledd ar Comics and Nation ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor LL57 2DG.

Mae dinas Bangor wedi'i lleoli rhwng y Fenai a Pharc Cenedlaethol Eryri yn un o rannau prydferthaf gwledydd Prydain. Am wybodaeth bellach am Fangor a'r cyffiniau, ewch i'r tudalennau Gwybodaeth i Ymwelwyr ar brif wefan Prifysgol Bangor. Am glipiau fideo, delweddau panoramig rhyngweithiol ac oriel luniau, ewch i'n gwefan Taith Rithiol.

Teithio i'r Brifysgol

Mae'n hawdd cyrraedd Bangor trwy rwydweithiau ffordd a rheilffordd rhagorol, gyda chysylltiadau cyfleus i feysydd awyr Llundain, Manceinion a Lerpwl. Mae wedi'i lleoli rhwng dinasoedd hanesyddol Conwy a Chaernarfon, gyda chestyll enwog a nifer o atyniadau eraill wrth law ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol a gwibdeithiau o'r gynhadledd.

Ar y Ffordd

Mae gan y Brifysgol gysylltiadau ffordd da o ffordd ddeuol arfordir Gogledd Cymru, yr A55.  Defnyddiwch god post LL57 2DG i gynllunio trywydd eich taith.

Teithio ar y trên

Mae cysylltiadau rheolaidd i orsaf drenau Bangor gan Virgin Trains a Threnau Arriva Cymru.

Ar Fws

Gwasanaethir Bangor gan fysiau National Express a darperir gwasanaethau bws lleol gan Fysus Arriva Cymru a chwmnïau bysiau eraill. Mae TravelineCymru yn darparu manylion am yr holl wasanaethau bws.

Gydag Awyren

Meysydd awyr agosaf Bangor yw Manceinion a Lerpwl John Lennon; mae cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd da o'r ddau. Mae Maes Awyr Môn yn gyfleus ac yn cynnig teithiau awyren dyddiol i Gaerdydd.

Ar y Môr

Mae gwasanaethau fferri gan Irish Ferries a Stena Line o borthladd Caergybi (rhyw 30 munud o Fangor mewn car neu drên) i Iwerddon.

 

 

Site footer