Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Cynhadledd Comics a Chenedl

13 ac 14 Gorffennaf 2017, Prifysgol Bangor

Prif Siaradwr: Yr Athro Charles Forsdick

Am y Gynhadledd

Dros y blynyddoedd diwethaf mae twf y ‘nofel ddarluniadol’ wedi arwain at gynnydd mewn diddordeb academaidd o gyfeiriad gwahanol ddisgyblaethau a meysydd astudio mewn celfyddyd ddigrif. Mae testunau darluniadol, yn eu ffurfiau a genres lluosog, wedi bod yn amlygiad diwylliannol sy’n adlewyrchu newidiadau cymdeithasol, tensiynau hanesyddol a hefyd eu heffeithiau ar straeon unigol ers eu dechrau. Mae comics hefyd wedi dylanwadu ar greu hunaniaethau cenedlaethol, mewn cenedl-wladwriaethau a chenhedloedd di-wladwriaeth fel ei gilydd.

Bwriad y gynhadledd hon yw creu deialog rhwng ysgolheigion sy’n gweithio mewn amrywiaeth o ddiwylliannau a disgyblaethau i gynnig fforwm ar gyfer trafod y gydberthynas rhwng celfyddyd ddigrif (llyfrau a stribedi comic, cartwnau a gwawdluniau) a chenedl, gan roi pwyslais arbennig ar greu testun/delwedd o ddiwylliannau lleiafrifol (e.e. Llydaw, Corsica, Galisia, Catalonia, Cymru, yr Alban, Sardinia etc.) ond hefyd yn cynnwys rhai o genedl-wladwriaethau (e.e. y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Sbaen, yr Eidal etc.)

Galwad am Bapurau

Mae’r alwad am bapurau’n agored. Mae’r gwahoddiad i gyflwyno papur yn awr yn agored. Am fanylion llawn, ewch i’r dudalen Galwad am Bapurau.

Site footer